TAKE ACTION: Support parents’ rights to demand inclusive RE in all Welsh schools

The Government is planning to rename Religious Education ‘Religion, Values, and Ethics’ (RVE), legislate to treat religions and humanism equally in schools with no religious character, and give the parents of children in faith schools the right to demand their children are provided with the same lessons instead of indoctrinatory faith-based RE.

We strongly support the proposals, which will mean that all pupils will have the right to lessons that are fully inclusive of humanism when their parents demand it. However, the plans have come under sustained attack from the Catholic Church, and for that reason, we need your help to secure these changes.

Please, will you respond to the consultation using this online form? We need submissions by Tuesday 28 July to guarantee the right to fully inclusive religion, values, and ethics classes for children in Wales.

Model responses to the most important questions can be found on the online form below. However, we would strongly advise that you adapt them. Officials tend to treat high numbers of identical contributions as one response, meaning your efforts will have much less impact than if you had personalised your answers.

 
I am a pupil
Talk about your positive experiences of learning about humanism in RE. If you haven’t been taught about humanism, explain why you think this is a problem (for example, by highlighting how this makes you feel as a non-religious person). If you have attended a faith school, discuss your experiences of being withdrawn from RE or having to stay in RE lessons that attempt to impose a religious perspective. If you are an older pupil who attends a faith school, explain why you would like the right to opt yourself into inclusive lessons in Religion, Values, and Ethics.
 
 
I am a parent or carer
Talk about why you think it is important for your children to learn about religions and humanism equally. If your only local choice of school is a faith school, explain the issues this has caused for your family (e.g. through having to withdraw your children from RE, or leave them subjected to faith-based education) and why having the option to ask for inclusive RVE lessons will be an improvement on the right to withdraw.
 
 
I am a teacher
Talk about your positive experiences of inclusive RE that covers humanism. Or, if your school teaches from a particular religious perspective or doesn’t consider non-religious worldviews, explain the problems you think this causes (both for the pupils and for you as a teacher). If you have any experience of pupils being withdrawn from RE, discuss why you don’t think this is as good as providing the right to demand an inclusive alternative to protect the rights of families who don’t want faith-based lessons.

 
 

Hoffwn ymateb yn Gymraeg/ I want to respond in Welsh

Mae cyfieithiad Cymraeg o'r ymatebion i'r cwestiynau allweddol isod.  Bydd angen dileu'r fersiwn Saesneg a chopïo a gludo'r fersiwn Cymraeg i'r blwch isod.

Cwestiwn 1 – A ydych yn cytuno y dylai crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) gwmpasu credoau crefyddol ac anghrefyddol sy’n argyhoeddiadau athronyddol (yn unol â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) fel y’u disgrifir yn y ddogfen ymgynghori? Cytuno Rwy’n cytuno’n gryf gyda’r cynnig hwn. Yn syml, mae’n cynnwys dilyn cyfraith hawliau dynol sy’n bodoli nawr ac sy’n dweud bod crefyddau a dyneiddiaeth i’w trin yn gyfartal yng nghwricwlwm ysgolion.

Yn ôl yr arolwg British Social Attitudes Survey, mae bron 60% o oedolion Cymreig yn ddigrefydd a bydd y nifer hwn hyd yn oed yn fwy ymhlith pobl ifanc. Er mwyn i’r gwersi newydd CGM fod yn berthnasol i blant a phobl ifanc sy’n tyfu fyny yng Nghymru heddiw, mae’n hanfodol bwysig eu bod yn ystyried persbectifau digrefydd ochr-yn-ochr gyda’r prif grefyddau. Gan  mai’r unig bersbectif digrefydd sydd wedi ei ddatblygu’n gyflawn ac sy’n cael ei gefnogi gan ystod eang o lenyddiaeth addas i’w astudio mewn ysgolion, golyga hyn mewn gwirionedd ei bod yn rhaid i ysgolion i addysgu dyneiddiaeth.

Mae rhai grwpiau crefyddol yn ceisio dadlau y byddai cynnwys dyneiddiaeth yng nghwricwlwm CGM yn golygu teneuo neu wanhau’r pwnc. Mae hyn nid yn unig yn hynod sarhaus o’r rheiny sydd, fel fi, yn arddel credo dyneiddiol, ond mae’n methu cydnabod yr effaith hanesyddol a damcaniaethol yn mae meddylwyr digrefydd wedi ei gael ar Gymru a’r byd. Byddai cau rhain allan o bwnc sy’n ystyried rhai o’r cwestiynau mwyaf a phwysicaf bydd plant yn eu hastudio yn yr ysgol yn hollol amhosib i’w gyfiawnhau.

Cwestiwn 2 – A ydych yn cytuno y dylai cynadleddau meysydd llafur cytunedig ystyried canllawiau statudol wrth ddatblygu eu maes llafur cytunedig lleol?

Cytuno

Mae’n hanfodol bod pob Cynhadledd Meysydd Llafur Cytunedig yn cymryd sylw o’r cyfarwyddyd statudol gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu eu maes llafur cytûn lleol. Mae hyn oherwydd ei fod yn cynrychioli’r ffordd orau i sicrhau bod y meysydd llafur sy’n cael eu datblygu’n cwrdd â’r angen cyfreithiol i fod yn ‘wrthrychol, hanfodol a lluosogaethol’ tra’n parhau i ganiatáu rhai gwahaniaethau ar lefel lleol (e.e. i adlewyrchu cynnwys y boblogaeth leol). Er hynny, mae’n bwysig bod Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig yn ymwybodol bod ‘cymryd sylw’ o’r cyfarwyddyd yn golygu mwy na chymryd cipolwg arno ac y dylai unrhyw benderfyniad i wyro oddi wrth y cyfarwyddyd hwn fod yn seiliedig ar resymau dilys, wedi eu mesur a’u pwyso’n fanwl sydd ddim o ran eu hunain yn arwain at faes llafur sydd yn anghyfreithlon. Er enghraifft, ni fyddai maes llafur sy’n anwybyddu dyneiddiaeth, am ba bynnag reswm, yn cwrdd â’r angen cyfreithiol ynglŷn â lluosogaeth ac felly ddim yn cyrraedd y safon angenrheidiol.

Cwestiwn 3 – A ydych yn cytuno â’n cynnig y dylid ei gwneud yn ofynnol i ysgolion cymunedol a sefydledig ac ysgolion gwirfoddol heb nodweddion crefyddol ystyried maes llafur cytunedig wrth ddylunio crefydd, gwerthoedd a moeseg a’i roi ar waith?

Cytuno

Am yr holl resymau a roddwyd i ateb Cwestiwn 1, mae’n bwysig bod disgyblion ym mhob ysgol heb gymeriad crefyddol yn derbyn addysg eang a chytbwys mewn crefyddau a dyneiddiaeth. Fodd bynnag, am fod Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig yn meddu’n barod ar beth hyblygrwydd o ran beth sy’n cael ei gynnwys yn y cwricwlwm, rwy’n gofidio rhywfaint y gallai cynnig mwy fyth o hyblygrwydd ar gynnwys a chyflenwad arwain at faterion pwysig yn cael eu gadael allan neu gael eu haddysgu mewn modd anghywir. Oherwydd na fydd bellach hawl gan rieni i dynnu eu plant allan o’r fath wersi, bydd hi’n hynod bwysig i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o’r ffiniau cyfreithiol sydd wedi eu gosod ar beth a sut ddylent ei addysgu a bod ‘cymryd sylw’ o’r maes llafur y cytunwyd arno yn golygu mwy nag esgus ei gefnogi. Bydd hyn yn hynod bwysig o ran addysgu dyneiddiaeth, a fydd yn bwnc newydd i lawer o ysgolion ac athrawon.

Cwestiwn 4 – A ydych yn cytuno â’n cynnig na chaiff rhieni/gofalwyr dysgwyr mewn ysgolion heb nodweddion crefyddol ofyn i ysgol addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn unol â daliadau ffydd benodol mwyach?

Cytuno

Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn yn gryf. Un o amcanion hanfodol y cwricwlwm newydd yw i gynhyrchu ‘dinasyddion moesegol, hyddysg sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd’. Mae’n annhebyg y cyrhaeddir y nod hwn mewn achosion lle na fydd y plant yn derbyn addysg gwrthrychol, cynhwysfawr, diduedd am wahanol grefyddau a dyneiddiaeth, felly mae gan y Llywodraeth ddyletswydd i gyfyngu’r nifer o blant sydd yn y sefyllfa hon. Does dim dyletswydd ar y wladwriaeth i ddarparu’r union ffurf o addysg y dymuna’r rhiant, does ond angen sicrhau nad yw’r addysg sydd ar gael yn bwrw yn erbyn hawl rhieni i ddarparu’r fath addysg eu hunain. Gan fod CGM cynhwysfawr yn addas ar gyfer pob disgybl beth bynnag yw eu cefndir, dydy e ddim yn torri’r mesur prawf hwn.

Os yw rhieni am drwytho’u plant mewn rhai credoau crefyddol, maent yn rhydd i wneud hynny yn eu cartref. Fodd bynnag, ni ddylent allu tynnu eu plentyn allan o wersi mwy gwrthrychol, lluosogaethol ynglŷn ag amrywiaeth o fyd-olygon crefyddol a digrefydd er mwyn gwneud hynny.

Cwestiwn 5 – A ydych yn cytuno â’r cynnig y dylai ysgolion gwirfoddol a reolir â nodweddion crefyddol allu addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn unol â gweithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau ffydd yr ysgol os bydd rhieni/gofalwyr yn gofyn iddynt wneud hynny?

Anghytuno

Rwy’n cytuno gyda’r cynnig y dylai ysgolion gwirfoddol a reolir â nodweddion crefyddol, fel yw’r sefyllfa bresennol, allu addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn ôl y maes llafur sydd wedi ei gytuno’n lleol. Fodd bynnag, rwy’n credu bod y cynigion perthnasol i CGM yn yr ysgolion hyn adlewyrchu y  rheiny mewn ysgolion heb gymeriad crefyddol. Mewn geiriau eraill, i sicrhau bod y nifer fwyaf posib o blant yn derbyn CGM cynhwysol, ni ddylai rhieni bellach allu gofyn am fersiwn o’r pwnc sy’n seiliedig ar ffydd.

Cwestiwn 6 – A ydych yn cytuno y dylai fod yn ofynnol i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir â nodweddion crefyddol addysgu yn unol â’r maes llafur cytunedig os bydd rhiant/gofalwr yn gofyn iddynt wneud hynny, ac a ddylai fod ganddynt ddisgresiwn i wrthod cais o’r fath? 

Cytuno

Mewn byd delfrydol, byddai’n orfodol i bob ysgol addysgu maes llafur CGM hollol gynhwysfawr a gwrthrychol i bob disgybl. Nid yn unig y byddai hyn y ffordd orau o ddiogelu’r hawl i ryddid crefyddol i ddysgwyr a’u teuluoedd, byddai hefyd yn helpu i sicrhau deallusrwydd a goddefgarwch cyd-rhwng gwahanol grwpiau. Er hynny, yn absenoldeb cynnig i llwyr ddiddymu addysgu’r pwnc yn seiliedig ar ffydd, mae’r cynnig i ganiatáu rhieni plant sy’n mynychu ysgolion gwirfoddol a reolir â nodweddion crefyddol i fynnu gwersi CGM yn unol â maes llafur wedi ei gytuno’n lleol yn gam enfawr i’r cyfeiriad iawn.

Oherwydd ystod o resymau, mae llawer o ddisgyblion sy’n mynychu ysgol ffydd ddim yn arddel crefydd yr ysgol. Dylent feddu ar yr hawl i ofyn am ddewis arall sydd ddim yn ceisio’u recriwtio i unrhyw un crefydd neu gredo arbennig, ond sy’n trin y safbwyntiau hyn yn gyfartal. Ni ddylid caniatáu’r ysgol i wrthod y fath gais oherwydd, yn wahanol i geisiadau i dderbyn CGM wedi ei seilio ar ffydd a drafodwyd uchod, mae angen y ffurf o addysg er mwyn gwarchod hawliau dynol y rhai dan sylw. Bwriad y gwersi yw eu bod yn ceisio osgoi hybu byd-olwg penodedig ar draul rhai eraill, rhywbeth fyddai, petai’n cael ei orfodi, yn datblygu’n drwytho, sy’n ymyriad â’r rhyddid i feddwl a chydwybod sydd wedi ei gorffori yng Nghonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Er fy mod yn cydnabod bod y cynigion yn wellhad nodedig ar y sefyllfa bresennol yn ysgolion ffydd, rwy’n dal i ofidio eu bod yn methu gwarchod hawliau plant hŷn. Dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant, mae plant a phobl ifanc yn meddu ar yr hawl i ryddid crefydd neu gredo. Mae’r hawl hwn yn meddu ar rym yng nghyfraith y DU oherwydd yr achos cyfreithiol sy’n adnabyddus fel Gillick competence. Fodd bynnag, yn ysgolion ffydd, bydd yr hawl i fynnu CGM cynhwysol ym meddiant y rhieni hyd at oed chweched dosbarth. Yn fy marn i, mae hyn yn rhy hwyr a dylid caniatáu disgyblion o Flwyddyn 10 i ddewis mynychu gwersi cynhwysol. Dyma beth ddylai’r sefyllfa fod yn Ysgolion Gwirfoddol a gynorthwyir ac, os yw’r hawl cyfredol i rieni fynnu gwersi seiliedig ar ffydd i barhau, yn Ysgolion gwirfoddol a reolir sydd yn meddu ar gymeriad ffydd.
 
 
 
This form is provided by Humanists UK, registered charity no. 285987. See our Privacy Policy.
By submitting this form, you agree to allow Humanists UK to forward the above message. Your data may be retained for monitoring purposes. Data will be processed by Organic Campaigns: Privacy policy. Acknowledgements

Login

Search Humanists UK